
Fy enw yw Peter Vaughan, eich Prif Gwnstabl o Heddlu De Cymru, a chroeso i einbobi.com. Mae’r safle hwn yn eich darparu gyda gwybodaeth ynglŷn â phlismona’r gymdogaeth, a bydd yn eich cadw’n wybodus ynglŷn ag ein gwaith partneriaeth o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, trosedd, a phroblemau eraill yr ydych yn dweud wrthyf sydd o bwys.
Mae fy swyddogion a fy staff yn broffesiynol, yn bositif ac yn falch iawn o’ch gwasanaethu. Rydym i gyd eisiau bod y gorau posib am wrando, deall ac ymateb i’ch anghenion, a Chadw De Cymru’n Saff.