
Mark Lenihan
Fi yw’r Arolygydd Sector sy’n gyfrifol am blismona ardal Treforys a Chlydach. Fy nod yw lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, hefyd i dargedu’r unigolion hynny sy’n achosi dioddefaint o fewn ein cymunedau. Yn Nhreforys a Chlydach rydym wedi datblygu perthynas weithio ardderchog gyda phartneriaethau aml-asiantaeth. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y bartneriaeth hon er mwyn gwella a chynnal ansawdd bywyd pob un sy’n byw, gweithio ac ymweld â’r ardal. Fe fyddwn i’n annog holl aelodau’r gymuned i fynychu cyfarfodydd PACT a hysbysebir yn lleol. Yno bydd swyddogion lleol yn gwrando ar eich anghenion a’ch pryderon ac yn ymateb iddynt.