
Arolygydd Paul Tinkler
Fi yw Arolygydd Sector Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cynnwys wardiau Bracla, Bryntirion, Cefn Glas, Coety, Llangrallo, Felindre, Hendre, y Llidiart, Morfa, y Castell Newydd, yr Hengastell, Pendre a Phenprysg.
Mae'r dull plismona ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn un traddodiadol, gdya thimau swyddogion cymdogaeth wedi’u lleoli ym mhob ward. O'r fan hon gall y cyhoedd gael mynediad uniongyrchol i gymorth gan yr Heddlu. Mae pob tîm yn cynnwys rhingyll, cwnstabliaid a swyddogion cymorth cymunedol yr Heddlu. Gall cymunedau siarad â swyddogion er mwyn cael cyngor, gwybodaeth neu er mwyn trafod unrhyw bryderon sydd ganddynt.
Os hoffech siarad â’ch swyddog lleol, ewch i dudalen we eich ward neu ewch i’ch cyfarfod Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd (PACT) nesaf. Gellir dod o hyd i fanylion pob cyfarfod PACT ar dudalennau gwe y ward.