
Fi yw Peter Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, a chroeso i einbobi.com. Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth am blismona cymdogaeth, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith partneriaeth o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu a phroblemau eraill rydych chi wedi dweud wrthyf sydd bwysicaf.
Mae fy swyddogion a'm staff yn broffesiynol, yn bositif ac yn falch iawn o’ch gwasanaethu. Rydym oll am fod y gorau posib am wrando, deall ac ymateb i’ch anghenion, a Chadw De Cymru’n Ddiogel.