Mae Caerdydd yn ffinio ag ardal wledig Bro Morgannwg i’r gorllewin, dinas Casnewydd i’r dwyrain, cymoedd de Cymru i’r gogledd ac Aber Hafren a Môr Hafren i’r de.
Mae’r Afon Taf yn rhedeg drwy ganol y ddinas, ac yn ogystal â’r Afon Elai maent yn llifo i lyn dŵr croyw Bae Caerdydd.
Mae trydedd afon, y Rhymni, yn llifo drwy ddwyrain y ddinas yn uniongyrchol i Aber Hafren.

Prif Uwcharolygydd Thomas
Helo!
Fi yw Prif Uwcharolygydd Alun Thomas, Comander Rhanbarth Caerdydd.
Mae’n bleser gen i’ch croesawu i dudalennau Caerdydd einbobi.com.
Mae Caerdydd yn lle gwych i fyw ac i fagu teulu ynddo, ac rwy’n hynod falch o wasanaethu cymunedau Caerdydd.
Drwy weithio gyda’m cydweithwyr rydym am wneud Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf diogel yn y DU.
Gallaf sicrhau ein hymroddiad ac y byddwn yn ymdrechu i ddeall eich anghenion a datrys y problemau sy’n achosi pryder i chi.
Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn wneud Caerdydd yn lle mwy diogel i fyw ac i weithio ynddo, ac i ymweld ag ef.