
Arolygydd Stephen Rees
Fi yw Arolygydd Sector ardal Maesteg. Mae’r ardal yn ddaearyddol fawr, ac yn lled wledig o ran natur. Mae'n ymestyn o Abercynffig yn ne’r sector i Faesteg yn y gogledd, ac yn cynnwys Cwm Garw, Cwm Ogwr a Chwm Llynfi.
Mae prif orsaf y sector ym Maesteg. Fodd bynnag, mae swyddogion wedi’u lleoli yng ngorsafoedd heddlu Caerau, Abercynffig a Phontycymer hefyd. Mae pob gorsaf yn gartref i dîm plismona cymdogaeth penodol o gwnstabliaid a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu o dan arolygaeth rhingyll tîm.
Ein nod yw lleihau troseddu a mynd i’r afael â materion o bryder drwy gyfrwng y broses PACT, a thrwy hynny wella ansawdd bywyd ar gyfer pewswylwyr y sector, a sicrhau fod yr ardal maent yn byw ynddi yn fwy diogel, heb ofn troseddu.